Cymraeg

English

Tregaron
Aberystwyth
Aberaeron
Aberteifi/Cardigan
Llandysul
Lleoliad eraill other venues

Disgrifiad Cyrsiau

Course Descriptions

Cyrsiau TG IT Courses
Cyrsiau Eraill Other Courses
Ffi Cwrs Course Fees
Term Timetable
Mynediad Agored Open Access
Learn Direct
Learn Direct
Grantiau
Grants
Amdanom ni About Us
Tiwtoriad/tutors

 

 

 

Cyrsiau Eraill


Defnyddiwch y cysylltiadau isod ar gyfer gwybodaeth am ein cyrsiau:

 

Serameg
Trafod Cerddi

 

Gwniadwaith
Cadw’n Heini i’r 50+

 

Crefft Siwgr
 
Dysgu Cymraeg

 

 

Dewch i Ddawnsio!

Nod y dosbarth yw cyflwyno gwybodaeth sylfaenol o’r gwahanol rythmau a symudiadau dawnsio mewn ‘Dawnsfeydd Neuadd Ddawnsio’; a rhai ‘Lladin-Americanaidd’ a fydd yn arwain at amrywiaeth o brofion a all ennill i chi fedalau os dymunwch. Mae’r dawnsfeydd yn cynnwys: Y ‘Walts’; ‘Stepio Cyflym’; y ‘Cha-Cha-Cha’; `Jeifio`; y `’Ffocs-trot Araf’; Y ‘Tango’; Y ‘Rymba’; Y ‘Samba’; Y ‘Salsa’ a’r ‘Pasa- Doble’. Mae’r Tiwtor yn gymrawd o’r UKA aelod corfforedig o Gyngor Dawns Prydain.

top

Serameg

Bydd y cwrs uchod yn cyflwyno amryw dechnegau a methodoleg mewn creu ac addurno amrywiaeth o waith sy’n ymwneud â gwaith crefft y crochenydd.

top

Trafod Cerddi

Cwrs ar gyfer gwerthfawrogi barddoniaeth Gymraeg. Bydd y dosbarthiadau yn gyfuniad o weithdy llenyddol a grwp trafod. Gosodir gwaith cartref i’r rhai a’u dymuna, a thrafodir y cynnyrch ar ddechrau’r wers ganlynol. Am weddill y wers trafodir cerddi Cymraeg cyfoes. Darperir copïau o’r cerddi.

top

Gwniadwaith

Cyflwynir pob math o frodwaith fel bo’n addas. Dewisir prosiect gan yr unigolyn i gwblhau ac fe ddysgir y sgiliau angenrheidiol i orffen y prosiect. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer pob lefel o ddechreuwyr.

Needlework examples

top

Cadw’n Heini i’r 50+

Nod y cwrs yw cynyddu eich nerth, cryfder ac ystwythder. Bydd nerth yn eich cynorthwyo i gadw i fynd heb flino yn gyflym. Mae angen cryfder ar gyfer gweithgareddau beunyddiol o gwmpas y cartref. Trwy gynyddu cryfder cyhyrol ac ystwythder byddwch yn llai tebygol o ddioddef ysgiadau ac anafiadau ac yn cadw'n fywiog wrth dyfu'n hyn.

top

Crefft Siwgr

Dysgwch sut i addurno eich cacennau ar gyfer y Nadolig.

top

Dysgu Cymraeg

Yn ogystal â'r cyrsiau a restrir yn y web site mae Cyngor Sir Ceredgion yn trefnu amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg ar gyfer pob safon gan gynnwys gwersi unwaith yr wythnos dros 3 thymor, ysgolion undydd, penwythnos a chyrsiau wynthnos. Ar hyn o bryd cynhelir dosbarhiadau mewn nifer o leoliadau ar draws Ceredigion ar gyfer dechreuwyr a'r sawl sydd â pheth gwybodaeth o'r Gymraeg. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Julie Brake
Canolfan Iaith Ceredigion
Felinfach Campus
Felinfach
Lampeter
SA48 7LT

01545 572703
E-bost Julie Brake

top