![]() |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Defnyddiwch y cycylltiadau isod ar gyfer gybodaeth am ein cyrsiau TG:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
I gyflwyno cyfrifiaduron i'r dechreuwr pur. Mae'r pynciau a ddysgir yn cynnwys prosesu geiriau, e-bost, syrffio'r We a dylunio cardiau ar gyfer pob achlysur. Mae'r unedau hyn ar gael yn Gymraeg. |
| Mae'r Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd yn gymhwyster byd eang mewn Technoleg Gwybodaeth. Mae ar gyfer y sawl sy'n dymuno ennill cymhwyster sylfaenol mewn cyfrifiaduro i'w cynorthwyo yn ei gwaith presennol, datblygu ei sgiliau, gwella ei rhagolygon gyrfaol neu er diddordeb cyffredinol yn unig. Mae'r cymhwyster hwn ar gael yn Cymraeg. |
| Bydd Cwrs Uwch TYGE yn eich galluogi i arddangos eich sgiliau cyfrifiadurol ar y lefel uchaf, a gallwch ddangos i gyflogwr eich bod yn hyderus, yn gymwys ac yn effeithiol mewn amrediad eang o gymwysterau. Y cymwysterau yr ymdrinnir â hwy yw: Prosesu Geiriau; Taenlenni; Bas-data a Chyflwyniad Graffeg. |
| Bydd angen eich amera digidol eich hun arnoch. Fe ddysgwch sut i ddefnyddio sganiwr, camera digidol a Photoshop. |
| Dysgwch sut i wneud y defnydd gorau o'ch Camera Digidol, tynnu lluniau gwell, rosglwyddo, cadw ac argraffu delweddau. Dysgwch sgiliau golygu sylfaenol gyda Photoshop Elements. |
| Defnyddiwch eich cyfrifiadur i gasglu ac arddangos eich coeden achau. Defnyddiwch y rhyngrwyd a ffynonellau eraill ar gyfer ymchwilio. Mireinwch y cyflwyniad o’ch coeden achau trwy ddefnyddio dulliau aml-gyfrwng, e.e. ffotograffiaeth digidol, sganiwr & camcorder. Cofnodwch y wybodaeth trwy ddefnyddio meddalwedd Hanes Teulu. |
| Y nod yw paratoi ar gyfer cymhwyster prosesu geiriau. Lefel 1 - addas ar gyfer y sawl sy'n newydd i'r sgilliau a'r wybodaeth angenrheidiol i Broseswyr Testun. Lefel 2 - Sgilliau gwaith ysgrifenyddol cyffredinol. Lefel 3 - sgiliau uwch i rai sydd wedi cyflawni Lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol. Mae'r cymwysterau hyn ar gael yn Gymraeg. |
| Cyflwynaid i rai sy'n cadw cyfrifon i fusnesau ac yn dymuno defnyddio system awtomataidd ar gyfrifiadur drwy ddefnyddio rhaglenni SAGE Line 50. Dangosir sut y gellir defnyddio gwybodaeth i reoli eich busnes yn fwy effeithiol. |
| Mae CLAIT Newydd yn gymhwyster
Lefel 1 a ddatblygwyd gan OCR i adlewyrchu technoleg newydd a'r angen
i ennill y sgiliau perthnasol ar gyfer y gweithle modern. Mae'r unedau
sydd ar gael yn cynnwys: Prosesu Geiriau, E-bost a'r Rhyngrwyd, Taenlenni,
Cyhoeddi Penbwrdd a Dylunio Tudalen ar gyfer y We.
|
| Cymhwyster Lefel 2 yw CLAIT Plus a ddatblygwyd gan OCR i adlewyrchu technoleg newydd ac i ehangu sgiliau unigol perthnasol ar gyfer y gweithle modern. Mae'r ystod modylau sydd ar gael yn y cwrs hwn yn cynnwys: Creu, rheoli ac integreiddio ffeiliau (craidd), Taenlenni, Llunio tudalen We, Cyfathrebu Electronig. |
|