
Addysg Gymunedol i Oedolion Cyngor Sir Ceredigion
Mae Dysgu Bro Ceredigion yn rhan o Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion. Ein nod yw darparu cyfleoedd dysgu ar gyfer pobl Ceredigion yn eu cymuned fydd yn eu hannog i ddatblygu diddordebau newydd, gweithio tuag at ennill cymhwyster neu wella eu sgiliau ar gyfer y gweithle.
Rydym yn mawr obeithio y dowch o hyd i gwrs sy’n eich diddori ar y tudalennau hyn. Os na, rhowch wybod i ni beth yr hoffech weld yn cael ei ddarparu ac fe wnawn ein gorau i gwrdd â’ch gofynion.
Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau

Tystysgrif Lefel 1 OCR/Diploma ar gyfer Defnyddwyr TG (CLAiT)
Mae CLAIT yn gymhwyster Lefel 1 a ddatblygwyd gan OCR i adlewyrchu technoleg newydd a’r angen i ennill y sgiliau perthnasol ar gyfer y gweithle modern. Mae’r unedau sydd ar gael yn cynnwys: Cyhoeddi Penbwrdd; trafod e-ddelweddau a Dylunio Tudalen ar gyfer y We.
