Cyrsiau TG
- Defnyddio Offer y We 2.0
- Hwyl gyda Chyfrifiadureg
- TYGE
- Uwch TYGE
- Tystysgrif Lefel 1 OCR/Diploma ar gyfer Defnyddwyr TG (CLAiT)
- Tystysgrif Lefel 2 OCR/Diploma ar gyfer Defnyddwyr TG (CLAiT PLUS)
- Cre8or
- Cyfrifeg Sage
- Cyflwyniad Amlgyfrwng
- Sut i wneud pethau defnyddiol gyda'ch cyfrifiadur
- Sage Payroll (V9)
- Delweddau Digidol
- Achau Teuluol trwy ddefnyddio'ch Cyfrifiadur
Defnyddio Offer y We 2.0
Dewch i adnabod rhai o offer feddalwedd y We sy'n rhad ac am ddim ar gyfer rhannu, cydweithio a chreu. Hefyd, gallwch archwilio aml-gyfrwng i greu animeiddiadau, sain a ffilmiau.
Hwyl gyda Chyfrifiadureg

I gyflwyno cyfrifiaduron i'r dechreuwr pur. Mae'r pynciau a ddysgir yn cynnwys prosesu geiriau, e-bost, syrffio'r We a dylunio cardiau ar gyfer pob achlysur.
Mae'r cymwysterau hyn ar gael yn Gymraeg.
TYGE
Mae'r Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd yn gymhwyster byd eang mewn Technoleg Gwybodaeth. Mae ar gyfer y sawl sy'n dymuno ennill cymhwyster sylfaenol mewn cyfrifiaduro i'w cynorthwyo yn eu gwaith presennol, datblygu eu sgiliau, gwella eu rhagolygon gyrfaol neu er diddordeb cyffredinol yn unig.
Mae'r cymhwyster hwn ar gael yn Gymraeg.
Uwch TYGE

Bydd Cwrs Uwch TYGE yn eich galluogi i arddangos eich sgiliau cyfrifiadurol ar y lefel uchaf, a gallwch ddangos i gyflogwr eich bod yn hyderus, yn gymwys ac yn effeithiol mewn amrediad eang o gymwysterau. Y cymwysterau yr ymdrinnir â hwy yw: Prosesu Geiriau; Taenlenni; Bas-data a Chyflwyniad Graffeg.
Os y cwblhewch y cyfan o'r modiwlau yn y cwrs, byddwch hefyd yn derbyn tystysgrif fel Arbenigwr/wraig o'r TYGE. Fel Arbenigwr/wraig TYGE byddwch hefyd yn gymwys i fod yn Aelod o Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain ac i roi'r llythrennau: AMBCS ar ôl eich enw fel cymhwyster.
Tystysgrif Lefel 1 OCR/Diploma ar gyfer Defnyddwyr TG (CLAiT)

Mae CLAIT yn gymhwyster Lefel 1 a ddatblygwyd gan OCR i adlewyrchu technoleg newydd a'r angen i ennill y sgiliau perthnasol ar gyfer y gweithle modern. Mae'r unedau sydd ar gael yn cynnwys: Cyhoeddi Penbwrdd; trafod e-ddelweddau a Dylunio Tudalen ar gyfer y We.
Tystysgrif Lefel 2 OCR/Diploma ar gyfer Defnyddwyr TG (CLAiT PLUS)
Cymhwyster Lefel 2 yw CLAIT Plus a ddatblygwyd gan OCR i adlewyrchu technoleg newydd ac i ehangu sgiliau unigol perthnasol ar gyfer y gweithle modern. Mae'r ystod modylau sydd ar gael yn y cwrs hwn yn cynnwys: trafod e-ddelweddau; creu gwefannau a chyflwyniadau.
Ydych chi erioed wedi ystyried sut fyddech chi’n creu ac yn golygu
eich fideos digidol eich hunan, ac yn a ychwanegu effeithiau sain? Oes
diddordeb gyda chi mewn tynnu lluniau gyda chamera digidol mewn ffyrdd
gwahanol a dysgu technegau i’w mireinio? Neu ydych chi wedi clywed
am Podlediadau ac wedi ystyried sut fedrwch chi greu rhai eich hunan
a’u rhannu gyda phobl eraill? Ydych chi wedi gweld animeiddiadau
fel Wallace a Gromit ac wedi meddwl yr hoffech greu rhywbeth tebyg?
Wel, medrwch nawr, gyda Digital Cre8or! Mae’n cael ei gydnabod
hefyd fel cymhwyster rhyngwladol, a gwell fyth, does dim arholiadau
neu brofion i’w sefyll!
Cyfrifeg Sage

Cyflwyniad i rai sy'n cadw cyfrifon i fusnesau ac yn dymuno defnyddio system awtomataidd ar gyfrifiadur drwy ddefnyddio rhaglenni SAGE Line 50. Dangosir sut y gellir defnyddio gwybodaeth i reoli eich busnes yn fwy effeithiol.
Cyflwyniad Amlgyfrwng

Cwrs newydd sydd yn anelu at rhoi sgiliau i cyflwyno delweddau a testun wrth ddefnyddio feddalwedd golygu delweddau, PowerPoint a phethau amlgyfrwng. Mae hefyd yn cynnwys y defnydd o wahanol offer am y pwrpas hyn e.e. camera digidol, sganiwr, taflunydd a ddyfeisiadau storio cyfryngau. Bydd y cwrs yn addas i fyfyrwyr sydd yn ymwneud â chyflwyno gwybodaeth i phobl eraill fel Hanes Teuluol, clybiau, cymdeithasau neu ffrindiau a teulu.
Sut i wneud pethau defnyddiol gyda'ch cyfrifiadur
Cwrs newydd yw hwn sy'n cynnwys defnyddiau ymarferol a sefyllfaoedd 'sut i..' ynglyn â'ch cyfrifiadur, e.e. creu copi wrth gefn ffeiliau pwysig, creu CDau, golygu ffilmiau digidol, is-lwytho ffeiliau mp3, sganio, eBay, band llydan ac ymlaen.
Sage Payroll (V9)
This course will help you to utilise the features of SAGE Payroll to process your payroll efficiently and effectively. This course will help you to: Set up and maintain essential details of employees; Keep accurate absence records for your employees; maintain PAYE and NI tables; process your payroll with minimum effort.
Delweddau Digidol
Dysgwch sut i wneud y defnydd gorau o'ch Camera Digidol, tynnu lluniau gwell, sut i ddefnyddio sganiwr, trosglwyddo, cadw ac argraffu delweddau. Dysgwch sgiliau golygu sylfaenol gydag Adobe Photoshop. Bydd angen eich camera digidol eich hun arnoch.
Achau Teuluol trwy ddefnyddio'ch Cyfrifiadur

Defnyddiwch eich cyfrifiadur i gasglu ac arddangos eich coeden achau. Defnyddiwch y rhyngrwyd a ffynonellau eraill ar gyfer ymchwilio. Mireinwch y cyflwyniad o'ch coeden achau trwy ddefnyddio dulliau aml-gyfrwng, e.e. ffotograffiaeth digidol, sganiwr a camcorder. Cofnodwch y wybodaeth trwy ddefnyddio meddalwedd Hanes Teulu.