Cyrsiau Learndirect
Oherwydd eu hyblygrwydd mae cyrsiau Cyswlltdysgu yn caniatáu i chi gyfuno’ch dysgu gyda’ch cyfrifoldebau eraill - mae’n haws dysgu pan mae’n gyfleus i chi!
Felly os ydych am wella eich sgiliau ar gyfer gwaith, sefydlu neu ddatblygu eich busnes eich hun, helpu’r plant gyda’u gwaith cartref, dechrau diddordeb newydd neu weithio tuag at gymhwyster gallwn helpu gydag amrywiaeth o wasanaethau dysgu.
Mae dewis ar gael o gannoedd o gyrsiau Cyswlltdysgu, yn cynnwys:
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
- Darllen, Ysgrifennu a Gweithio gyda Rhifau
- Busnes a Rheolaeth
- Ieithoedd
Mae cwrs gan Cyswlltdysgu sy’n gweddu i chi. Unwaith byddwch wedi cofrestru yn un o’n Canolfannau, medrwch ddysgu o gartref, yn y gwaith neu yn y Ganolfan yn ystod un o’n Sesiynau Mynediad Agored.
Dewch i mewn i sgwrsio gydag un o’n ymgynghorwyr Cyswlltdysgu i drafod eich dewisiadau.
Mynediad Agored
Ydych chi am ddefnyddio’r cyfrifiaduron i ymarfer, syrffio’r We, defnyddio Ancestry.com am ddim? Gwneud gwaith personol? Neu gofrestru ar gyfer cwrs Cyswlltdysgu? Yna dewch i un o’n Canolfannau yn ystod oriau Mynediad Agored ac fe fydd un o’n staff cyfeillgar yno i’ch helpu. Mae sesiynau Mynediad Agored yn rhad ac am ddim, codir tâl am gostau argraffu yn unig.