Cyrsiau Hamdden

Blodeuyddiaeth i Ddechreuwyr gyda Linda Seabrook, blodeuwraig "LA"

Dewch i ddysgu medr newydd ac ennill cymhwyster NAFAS (National Association of Flower Arrangement Societies) ar yr un pryd. Byddwch yn creu trefniadau blodau gan ddefnyddio deiliach a blodau tymhorol trwy gydol y flwyddyn.

 

Arlunio yng Nghymru gyda Caroline Juler

Cwrs deg wythnos a ddyluniwyd i’ch cyflwyno i‘r amrywiaeth wych o gelf a ddarganfyddir yng Nghymru ac a ddaw o Gymru. Gan gychwyn yn yr ail ganrif ar bymtheg, cewch gyfle i astudio rhai o dirluniau cynharaf Prydain. Wrth i’r cwrs ddatblygu medrwch weld sut oedd moderniaeth wedi cyrraedd, yn hwyr yn y dydd, i’w chyfuno a‘i chyfoethogi gan artistiaid â chariad at draddodiadau Cymreig a ffraethineb anarchaidd yn ogystal.

Canu'r Gitâr gyda Mike Eades

Nod y Cwrs i Ddechreuwyr yw dysgu i chwarae mewn gweithdy sy’n rhwydd i’w ddilyn, a chynyddu hyder a chymhelliad trwy ddysgu a pherfformio darnau syml a difyr o gerddoriaeth. Nid oes angen unrhyw wybodaeth gerddorol flaenorol – dim ond y parodrwydd i ddysgu chwarae’r gitâr.

Nod y Cwrs Canolradd yw adeiladu ar y wybodaeth a’r profiad blaenorol o chwarae’r gitâr a chynyddu hyder a chymhelliad ymhellach trwy ddysgu a chwarae strwythurau cord a melodi mwy heriol. Bydd peth gwybodaeth gerddorol flaenorol yn ddymunol.

Nod y Cwrs Uwch yw ehangu ac astudio technegau gitâr fwy datblygedig gan gynnwys amrediad llawer ehangach o ddeunyddiau a hefyd, cynnal a chadw’r gitâr, dylunio, adeiladau, ei hanes a hunan-gyfansoddi. Byddai gwybodaeth gerddorol flaenorol yn ddymunol.

 

Cadw'n Heini i'r 50+

Nod y cwrs yw cynyddu eich nerth, cryfder ac ystwythder. Bydd y gallu i ymddal yn eich cynorthwyo i gadw i fynd heb flino yn gyflym. Mae angen cryfder ar gyfer gweithgareddau beunyddiol o gwmpas y cartref. Trwy gynyddu cryfder cyhyrol ac ystwythder byddwch yn llai tebygol o ddioddef ysigiadau ac anafiadau ac yn cadw'n fywiog wrth dyfu'n hyn.

Gwniadwaith gyda Dilys Morgan

 

Cyflwynir pob math o frodwaith fel bo'n addas. Dewisir prosiect gan yr unigolyn i gwblhau ac fe ddysgir y sgiliau angenrheidiol i orffen y prosiect. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer pob lefel o ddechreuwyr.

Dewch i Ddawnsio! Gyda Gill Knight

Nod y dosbarth yw cyflwyno gwybodaeth sylfaenol o'r gwahanol rythmau a symudiadau dawnsio mewn 'Dawnsfeydd Neuadd Ddawnsio'; a rhai 'Lladin-Americanaidd' a fydd yn arwain at amrywiaeth o brofion a all ennill i chi fedalau os dymunwch. Mae'r dawnsfeydd yn cynnwys: Y 'Walts'; 'Stepio Cyflym'; y 'Cha-Cha-Cha'; `Jeifio`; y `'Ffocs-trot Araf'; Y 'Tango'; Y 'Rymba'; Y 'Samba'; Y 'Salsa' a'r 'Pasa- Doble'. Mae'r Tiwtor yn gymrawd o'r UKA aelod corfforedig o Gyngor Dawns Prydain.