Lleoliadau'r Cyrsiau
Tregaron

Lleolir y Ganolfan ar gampws yr Ysgol Uwchradd. Yn ogystal ag ystafell hyfforddi rydym yn medru darparu hyfforddiant ar gyfrifiaduron yn y llyfrgell hefyd. Parcio am ddim ar gael ar gampws yr ysgol a’r priffordd.
Aberaeron

Lleolir ein canolfan hyfforddi ar safle Neuadd y Sir ym Mhenmorfa. Mae digon o le i barcio’n rhad ac am ddim ar y safle.
Penparcau (Aberystwyth)

Lleolir yr ystafell hyfforddi yng Nghanolfan Gymunedol Penparcau ar dir Ysgol Gynradd Llwyn Yr Eos. Wrth deithio o'r De ar yr A487 cymerwch yr ail dro ar y gylchfan. Gellir parcio am ddim o flaen yr adeilad.
Llandysul

Lleolir ein Canolfan i fyny'r grisiau yng Nghanolfan Ceredigion uwchben y llyfrgell. Teithiwch ar yr A475 o Lambed, A486 o Gei Newydd, a'r A484 o Gastell Newydd Emlyn. Digon o le i barcio am ddim gyferbyn.
Aberteifi / Cardigan

Lleolir ein Canolfan Hyfforddi yn Llyfrgell Aberteifi yng Nghanolfan Teifi Pendre. Teithiwch ar yr A487 o Aberystwyth a'r A484 o Gastell Newydd Emlyn. Codir tâl resymol am barcio ym maes parcio'r Cyngor Sir yn union gyferbyn.